Siop Llandyrnog

Medi 11, 2026 | Lluniau, Newyddion

Cyfarfod Blynyddol y Siop

Nodwch y dyddiad! Dydd Iau 17 Medi am 7yh yn neuadd y pentref.

Mae angen i 10% o gyfranddalwyr y siop fod yn bresennol a phleidleisio yn y Cyfarfod Blynyddol, a pha ffordd well o gyrraedd y targed hwnnw na chael raffl am ddim? Ac nid unrhyw raffl yn unig! Mae cyfle i ennill un o hamperau gwych Kayleigh – sy’n berffaith ar gyfer y Nadolig, yn ogystal â phenblwyddi a llawer o ddathliadau eraill. Gellir teilwra’r hamperau hyn yn unol â’ch dymuniadau!

Bydd y cyfarfod yn cynnwys crynodeb o gyfrifon y flwyddyn a chyflwyniad byr ar uchafbwyntiau ac isafbwyntiau’r flwyddyn; yn ogystal, cewch gyfle i bleidleisio dros y bwrdd cyfarwyddwyr a rhoi eich sylwadau ar unrhyw beth arall sy’n bwysig i chi. Bydd hyn gyd yn digwydd tra byddwch chi’n mwynhau paned a lluniaeth.

Subscribe to our Website

Want to find out the latest from Llandrynog Shop as and when it’s published? Click the link below to subscribe to our website.

Follow our Social Media

Want to connect with us online? Follow our various Social Media accounts below.

Help restore the heart of community

With your support, we can help bring the Shop and Post Office back to Llandyrnog.