
Wrth galon y gymuned ers 1841
O laeth i muffins, ffa pob i fara neu siytni i gaws gwerthir pob math o gynnyrch lleol blasus yn y siop bentref gyfeillgar hon.
Ail agor i gwsmeriaid
Diolch i gyllid Cronfa Perchnogaeth Gymunedol y DU, Cronfa Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru, Cronfa Budd Cymunedol Fferm Wynt Brenig, Cyngor Cymunedol Llandyrnog a thros 300 o gyfranddeiliaid cyfranddaliadau cymunedol, prynwyd yr adeiliad sydd bellach hefyd yn gartref i Swyddfa Bost a Hwb Cymunedol ym mis Chwefror 2024. Yn dilyn gwaith adnewyddu fe ail-agorodd yr ased yma i gwsmeriaid ar y 11ed o Hydref ac mae’r traddodiad cyfaethog o wasanaethau lleol i bobol lleol a ddechreuwyd yn 1841 gan Samuel Fox, yn parhau.


Awyrgylch gwych a chroeso cynnes
Er fod yn ddyddiau cynnar ers ail-agor y siop a’r hwb, mae’r staff a’r gwirfoddolwyr yn barod yn derbyn negeseuon gwych gan ymwelwyr. Boed yn grefft paentio y ffenestri a’r arwyddion pwrpasol gyda llaw, neu awyrgylch agored o fewn yr adeilad gan wneud symud o gwmpas i gwsmeiriaid o bob oedran a gallu, mor hawdd a ffosib, mae’n amlwg y bydd awyrgyll a chroeso cynnes dibyniadwy i bawb.


Oriau Agor Arferol
Llun - Gwe 08:00 - 17:30 | Sad 08:00 - 12:30 | Sul 09:30 - 12:00