Perchnogaeth wedi ei rannu gan y Gymuned
Siopau Cymunedol
Rydym am adennill Siop y Pentref Llandyrnog i’r gymuned, gan fabwysiadu strwythur gyfreithiol Cymdeithasau Budd Cymunedol (CBC), sydd wedi profi’n effeithiol.
Siopau Cymunedol yn y DU
%
Cyfradd Goroesi Hir Dymor
%
Profi Trosiant Cyson neu Gynyddol
Cymdeithasau Budd Cymunedol (CBS)
Mae model CBC yn cael ei greu trwy aelodaeth agored a gwirfoddol, gyda phwyllgor rheoli’n cael ei ffurfio o blith aelodau’r gymuned. Mae gan aelodau’r CBC lais go iawn yn sut mae’r busnes yn cael ei redeg, gyda pholisi un-aelod-un-bleidlais yr ydym am ei ddefnyddio.
Gwelir bod busnesau sy’n defnyddio strwythur CBC yn llwyddo i ennill ymrwymiad positif gan y gymuned, yn rhannol gan bod eu rhanddeiliaid yn dod o’r gymuned ei hun.
Strwythur cyfreithiol CBC sydd fwyaf poblogaidd ymysg Siopau Cymunedol eraill, sy’n awgrymu mai dyma’r strwythur cywir i’w ystyried ar gyfer Siop Llandyrnog.
- Cymdeithasau Budd Cymunedol (CBC) 70%
- Cwmni Cyfyngedig drwy warant 12%
- Cwmni Buddiannau Cymunedol 8%
- Cymdeithas Gydweithredol 4%
- Anghorfforedig / Arall / Anhysbys 6%
Ein Cenhadaeth
Dod â chanolbwynt y gymuned yn ôl i Landyrnog.
Codi arian
Rhan gyntaf ein cenhadaeth ydy codi digon o arian i brynu Siop y Pentref a Swyddfa’r Post yn ôl i gymuned Llandyrnog.
Adfywio
Ail ran ein cenhadaeth ydy adfer Siop y Pentref a Swyddfa'r Post yn ôl i’w hen ogoniant, tra hefyd yn cyflwyno gwasanaethau newydd.
Gwasanaethu
Rhan olaf ein cenhadaeth ydy’r un yr ydym fwyaf cyffrous amdani - gwasanaethu cymuned Llandyrnog a’r ardal gyfagos gyda chynnyrch lleol a gwasanaethau allweddol, ar gael i bawb.
Helpu i adfer calon y gymuned
Gyda’ch cymorth chi, gallwn ddod â’r Siop a Swyddfa’r Post yn ôl i Landyrnog.
Ystadegau wedi eu cymryd o adroddiad Community Shops: A better form of business 2021 (Plunkett Foundation, 2021)