Oeddach chi yn gwybod bod chi’n gallu dod yn gyfranddaliwr yn y siop am ddim ond £25?!
Mae’r cyfranddaliadau hyn er budd y gymuned yn hytrach nag ar gyfer gwneud elw, ond maent yn rhoi’r hawl i bob cyfranddaliwr bleidleisio yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (AGM) sydd ar ddod, a chael dweud eich dweud ynghylch sut mae siop Llandyrnog yn cael ei rhedeg. Sori, rwy’n golygu, cael dweud eich dweud ynghylch *eich* siop CHI. Gelli gofyn am ffurflenni cyfranddalwyr gan ysgrifennydd y cwmni CompanySecretary@llandyrnogshop.com neu yn y siop.
Gyda deg diwrnod i fynd tan Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol y siop ar ddydd Iau, 17 Medi, mae ‘na digon o amser i ymuno.

