Cymerwch olwg ar ein taflen wirfoddolwyr newydd! Heb ein tim gwych o wirfoddolwyr cyfeillgar, ni fyddai’r siop yn llwyddianus. Mae ein gwirfoddolwyr yn griw ymroddedig sydd bob amser yn barod i helpu. Rydym wrth ein bodd yn rhannu dyfyniadau gan wirfoddolwyr presennol sy’n dangos faint mae perthyn i dim a chymuned mor arbennig yn ei olygu iddynt.
Rydym hefyd yn croesawu gwirfoddolwyr ifanc, 14 oed a hŷn. Mae’n gyfle gwych i ennill profiad ar gyfer DofE, y Fagloriaeth Gymreig, neu hyd yn oed i baratoi ar gyfer cael eich swydd gyntaf. Mae cyfleoedd gwirfoddoli ar gael ar ôl ysgol ac ar y penwythnos – pam na wnewch chi trio fo?
Os oes gennych chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod, diddordeb mewn wirfoddoli (yn y siop neu ty ol i’r llenni gyda’r cyfarwyddwyr) byddem wrth ein bodd cael sgwrs gyda chi. Holi yn y siop i ffindio allan mwy!

