Ydych chi erioed wedi pendroni beth sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni yn y siop? Neu efallai bod gennych amser i’w gynnig fel gwirfoddolwr? Rydym yn croesawu gwirfoddolwyr newydd i’r siop ac aelodau newydd i’r bwrdd. Ymunwch â ni ar 17 Medi i glywed am yr heriau a’r llwyddiannau eleni, ynghyd â chrynodeb o’r cyfrifon ac ethol aelodau’r bwrdd. Mae angen i 10% o’r cyfranddalwyr bleidleisio ar nifer o faterion, felly byddai eich presenoldeb yn cael ei werthfawrogi’n fawr.
Hefyd, cofiwch fynd i lawr yr ale gefn i weld yr ardal eistedd yn yr ardd sydd newydd gael ei hadnewyddu. Diolch i grant hael iawn gan Cadwyn Clwyd, llwyddwyd i gyflogi AH Groundworks – cwmni o Landyrnog – i wneud y gwaith adnewyddu. Gweithiodd tîm AH Groundworks yn ddiflino yn yr haul poeth! Fe wnaethant gyfrannu’n hael y llafur ychwanegol oedd ei angen i gludo’r holl ddeunyddiau o flaen yr adeilad, gan fod mynediad cyfyngedig yn unig o’r tu cefn.
Sicrhawyd grant ychwanegol gan The Codi Trust, sydd wedi ein galluogi i brynu dodrefn a phlanhigion ychwanegol ar gyfer yr ardd. Oherwydd y sychder, rydym yn mynd i ohirio’r gwaith plannu er mwyn sicrhau bod y planhigion newydd yn cael y cyfle gorau i wreiddio heb fod angen defnyddio gormod o ddŵr.







