‘Rwyn siwr eich bod wedi sylweddoli o newyddion diweddaraf gennym fod y tri mis diwethaf wedi bod yn sialens i’r prosiect oherwydd y oedi i gael penderfyniad ar ein grant Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol.
Ar ol gwthio am benderfynniad gyda chefnogaeth ein Aeolodau o’r Senedd, nos Lun cafwyd galwad ffon gan Chris Buchan, y person yr ydym wedi bod yn cysylltu yn Llywodraeth Cymru, i gadarnhau fod swm o £200,000 wedi ei gytuno i Siop Gymunedol Llandyrnog. Mae hwn yn ymdeimlad enfawr o ryddhad i ni a nifer ohonoch ‘rwyn siwr.
Mi all y prosiect ddechrau symud ymlaen unwaith eto ac mi fyddwn yn gweithio yn galed i geision dal i fynnu a’r deuddeg wythnos yr ydym wedi ei golli.
Mi wnawn, wrth gwrs, adael i chi wybod sut mae pethau yn mynd ymlaen a gallwn nawr o leiaf weld y goleuni ym mhen y twnel.