It was great to see so many people attending the Public Meeting on such a wet evening and thank you also to those who contacted us to apologise for the absence due to the dreaded cold and flu. We were also delighted to welcome Dr James Davies MP who has been a great supporter of our project.
Following our recent success in securing the Welsh Government Community Facilities Grant Funding of £200,000 and the fantastic £51,150 raised from Community Shares, it was a great way to let everyone know how we will be moving the project forward.
Arrangements are well advanced now to complete on the purchase of the Shop and Post Office with solicitors working towards setting a completion date, after which it will be all systems go to get the renovation work and refit completed. We will be keeping you updated as work progresses.
As well as giving an overview of the project so far we discussed how the community could get involved with volunteering work to assist the shop and a presentation was made by our director, Jackie Le Fevre on volunteering and we are grateful to the people who have already placed their names on our register. Our future plan is to bring the volunteers together to discuss various opportunities as we move towards opening the shop. If you would like to volunteer to give us a hand, doesn’t matter how little, you can send me the details below by e mail to llandyrnogcommunityshop@btinternet.com or our Facebook page.
We are continually seeking help from those who have specialist skills particularly in organising renovation work or administration work and again just let me know if you can help in any way.
Hopefully the Question and Answers section gave an opportunity to understand more about the work we are doing with the sole aim to safeguard the Post Office, re open the shop and create a community hub.
We look forward to seeing you all again soon and hope you will share the word about this project in Llandyrnog.
CYFARFOD CYHOEDDUS HYDREF 11 2023
Roedd yn bleser gweld cymaint o bobol yn mynychu y Cyfarfod Cyhoeddus ar noson mor wlyb a diolch hefyd i’r rhai a gysylltodd i ymddiheuro am eu absanoldeb oherwydd anwyd a’r ffliw. Diolch hefyd i Dr James Davies AS am fynychu a sydd wedi bod yn gefnogwr i’n prosiect o’r dechrau.
Yn dilyn ein llwyddiant yn sicrhau grant o £200,000 o Gronfa Gwasanaethau Cymunedol Llywodraeth Cymru, £51,150 anghygoel o werthiant ein Cyfranddaliadau Cymunedol, roedd yn gyfle da i adael i bawb wybod sut y byddai y prosiect yn symud yn ei flaen.
Mae trefniadau nawr wedi symud ymlaen i bwrcasu y Siop a’r Swyddfa Bost gyda’n twrne yn gweithio i gael dyddiad cwblhau. Wedyn mi fydd y gwaith adnewyddu a gwelliannau yn dechrau cyn gynted a fydd bosib. Mi wnawn adael i chi wybod sut bydd y gwaith yn symud ymlaen.
Yn ogystal a rhannu newyddion am y gwaith sydd wedi ei wneud cyhyd cafwyd gair gan ein cyfarwyddwr Jackie Le Fevre sut y gallai aelodau o’r gymuned wirfoddoli i gynorthwy y prosiect a’r siop. Diolch yn fawr i’r bobol sydd yn barod wedi rhoddi eu henwau ar ein rhestr. Ein bwriad yw i ddod a’n gwirfoddolwyr at ei gilydd i drafod sut y gallant fod o gymorth fel yr ydym yn symud ymlaen at ddyddiad agor y siop. Os hoffech gynorthwyo y prosiect mewn unrhyw ffordd gallwch yrru eich manylion i ni ar e bost llandyrnogcommunityshop@btinternet.com neu ar ein tudalen Facebook. ‘Rydym yn arbennig yn edrych am unigolion a allai ein cynorthwyo i drefnu y gwaith atgyweirio a gwaith gweinyddol y prosiect. Gyrrwch nodyn os y medrwch ein cynorthwyo mewn unrhyw ffordd.
Gobeithio fod yr amser cwestiwn ac ateb wedi rhoi’r cyfle i rannu mwy o fanylion am y gwahanol waith sydd yn cael ei baratoi i sicrhau dyfodol i’r Swyddfa Bost, ail agor y siop a cyflwyno hwb cymunedol.
Edrychwn ymlaen i’ch croesawu i ddigwyddiadau pellach a gobeithiwn y gwnewch rannu y newyddion am ein prosiect yn Llandyrnog.