It is now 18 months since we all started on this journey to get the Post Office and Shop purchased for the community, and what a journey it has been with some very positive highs when our grant applications came to fruition and the amazing support from everyone who purchased the Community Shop Shares. Yes, there were some lows too – delays in getting decisions similar to those that we have experienced over the last 9 weeks. Despite these this week produced a further high with the eventual release of our final grant funds which now paves the way for the exchange of contracts for the purchase to go forward to a planned completion for the purchase by the end of January.
The delays have created their own problems – firstly the fact that there is now limited time to give everyone advanced warning that the Post Office will close with the departure of Rob and Roz in order that we can immediately start on the planned renovation work to meet our grant funders deadline date. I know that this temporary closure will be an inconvenience for those that use the Post Office but hope that, as we have previously explained, will safeguard not just the future of the Post Office but also return the Shop as a hub to the Village.
We are grateful for those that have been helping us so far but the next steps as we renovate and most certainly when we get to open the doors will require the support of the community and the offers of assistance from volunteers who put their names forward along the journey so far. Now that we can see the light at the end of the tunnel, we will arrange a meeting for you to have an opportunity to hear how you can help.
Our mission has always been to get the centre of the village buzzing again with the Shop, Post Office and Hub at the heart of the community.
We hope you will shortly be seeing trades arriving to start the work we have planned and if you feel this is an area you can assist us with you would be most welcome – just drop me a message.
Y Newyddion Diweddaraf
Mae hi bellach yn 18 mis ers i ni ddechrau ar y daith i brynu Swyddfa’r Post a’r Siop ar gyfer y gymuned. Taith sydd wedi bod gyda uchafbwyntiau cadarnhaol iawn pan ddaeth ein ceisiadau am grant yn dwyn ffrwyth a’r gefnogaeth anhygoel gan bawb a brynodd y Cyfranddaliadau Siop Gymunedol. Oedd, mi roedd rhai isafbwyntiau hefyd – yr oedi cyn cael penderfyniadau tebyg i’r rhai rydyn ni wedi gorfod delio gyda nhw dros y 9 wythnos ddiwethaf. Er gwaethaf y rhain, cynhyrchodd yr wythnos hon uchafbwynt pellach gyda rhyddhau ein cronfeydd grant terfynol yn sydd bellach yn paratoi’r ffordd ar gyfer cyfnewid contractau ac i’r pryniant fynd ymlaen erbyn diwedd mis Ionawr.
Mae’r oedi wedi creu eu problemau eu hunain – yn gyntaf y ffaith bod amser cyfyngedig bellach i roi rhybudd i bawb y bydd Swyddfa’r Post yn cau gydag ymadawiad Rob a Roz er mwyn i ni allu cychwyn ar unwaith ar y gwaith adnewyddu arfaethedig i gwrdd â dyddiad gorffen ein cyllidwyr grantiau. Gwn y bydd y cau dros dro hwn yn anghyfleustra i’r rhai sy’n defnyddio Swyddfa’r Post ond gobeithiaf, fel yr ydym wedi egluro o’r blaen, y bydd yn y diwedd yn diogelu nid yn unig dyfodol y Swyddfa’r Post ond hefyd yn dychwelyd y Siop fel canolbwynt i’r Pentref.
Rydym yn ddiolchgar am y rhai sydd wedi bod yn ein helpu hyd yn hyn ond bydd y camau nesaf wrth i ni adnewyddu ac yn fwyaf sicr pan fyddwn yn cyrraedd agor y drysau yn gofyn am gefnogaeth y gymuned a chynnig cymorth gan wirfoddolwyr a roddodd eu henwau ymlaen ar hyd y daith hyd yn hyn. Nawr ein bod yn gallu gweld pen y daith byddwn yn trefnu cyfarfod i chi gael cyfle i glywed sut y gallwch chi helpu.
Ein cenhadaeth erioed oedd cael canol y pentref yn llawn bwrlwm eto gyda’r Siop, Swyddfa’r Post a’r Hwb yn galon i’r gymuned.
Gobeithiwn y byddwch yn gweld gweithwyr yn cyrraedd cyn bo hir i ddechrau’r gwaith rydym wedi’i gynllunio ac os ydych yn teimlo bod hwn yn faes y gallwch ein cynorthwyo byddai croeso mawr i chi – dim ond gyrru neges i ni.